Tudalen Gartref

Gwasanaethau

Engreifftiau

Manylion Cyswllt

English

Croeso i Emrys Multimedia

Sefydlwyd Emrys Multimedia i ateb anghenion busnesau a sefydliadau bach a chanolig, i greu gwefannau personol am brisiau rhesymol.

Wedi ei sefydlu ar y ffîn rhwng Cymru a Lloegr, ger tref farchnad Croesoswallt, gall Emrys Multimedia gynnig gwasanaeth dwyieithog a chreu gwefannau yng Nghymraeg, Saesneg, neu yn y ddwy iaith.

Fel cwsmer, byddwch yn gallu trafod eich anghenion a chynnig eich barn o ran dyluniad, cynnwys a gosodiad eich safle.

Gellir hefyd trefnu diweddaru safleoedd ar adegau sy'n gyfleus am brisiau rhesymol.  Cewch gopi llawn o'ch safle wedi ei storio ar DVD rhag ofn bydd ei angen yn y dyfodol.

Gellir gwneud trefniadau ynglŷn â lleoliad i gynnal eich safle ac i brynu enw parth (cyfeiriad wê) ar ei gyfer.

Fe drosglwyddir unrhyw wybodaeth perthnasol i chi, er mwyn i chi gael cadw rheolaeth a pherchnogaeth llawn o'ch safle.

Bydd ansawdd a gwasanaeth cwsmer o hyd yn cael y brif sylw wrth i Emrys Multimedia fentro cyflwyno technoleg y 21ain ganrif efo'r gorau o wasanaeth cwsmer hen ffasiwn.

Trafodaeth rhad ac am ddim ar gael.

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional

gwefan wedi ei gynhyrchu gan
Emrys Multimedia